Bahrain (Soman CCA 2.5)
Mae adroddiadau bod pedwar o bobol wedi marw wrth i heddlu terfysg Bahrain chwistrellu nwy dagrau, saethu bwledi rwber a churo protestwyr a oedd wedi meddiannu un o sgwariau’r brifddinas.
Cyn hynny, roedd ysbytai’n dweud bod dwsinau o bobol wedi cael niwed a phroblemau anadlu wrth i’r gwrthdystiadau ac ymateb y lluoedd diogelwch barlysu’r wlad fechan yn y Dwyrain Canol.
Roedd y gwrthdystwyr, sy’n Foslemiaid Shiite, yn galw am newidiadau sylfaenol, gan gynnwys torri gafael y teulu brenhinol Sunni ar lywodraeth y wlad fechan.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw, sy’n fwyafrif yn y wlad, yn dioddef annhegwch cyson.
Roedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi bod y protestiadau’n anghyfreithlon ac wedi gosod rhwystrau diogelwch a weiren bigog o amgylch yr ardal.
“Fe wnaethon nhw ymosod arnon ni, ein taro gyda phastynau…” meddai un ymgyrchydd, Jafar Jafar, 17, oed wrth newyddiadurwyr. “Roedd yr heddlu’n chwistrellu nwy o bont uwchben y protestwyr.”
Y cefndir
Bahrain yw’r ddiweddara’ o nifer o wledydd yn y Dwyrain Canol sydd wedi gweld protestiadau o blaid democratiaeth a diwygio.
Fel yr Aifft, mae’n cael ei gweld yn un o ffrindiau gwledydd y Gorllewin ac yn un o gefnogwyr polisi’r Unol Daleithiau yn y rhanbarth.