Bae Ha Long (Macreda CCA 2.0)
Mae amheuaeth bod ymwelwyr o wledydd Prydain ymhlith 12 o bobol sydd ar goll neu wedi boddi wrthi long fechan suddo yn Fietnam.

Y gred yw eu bod nhw ar wyliau deifio ym Mae Ha Long ac fe gafodd 15 o bobol eraill eu hachub yn y digwyddiad yn gynnar y bore yma yn amser Fietnam.

Yn ôl yr awdurdodau yn yr ardal, roedd 11 o’r 12 yn ymwelwyr tramor – o’r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau ac Awstralia.

Roedd naw o ymwelwyr eraill ymhlith y rhai a gafodd eu hachub.