Brenin Bahrain, Hamad-Bin-Isa-Al-Khalifa
Mae lluoedd diogelwch yn Bahrain wedi eu gorchymyn i dynnu’n ôl wedi i ddau brotestiwr gael eu lladd a dwsinau eu hanafu.

Mae protestwyr wedi ymgynnull am y trydydd diwrnod yn sgwâr hanesyddol y brif ddinas heddiw, i alw am ddiwygio gwleidyddol eang yn Bahrain.

Mae lluoedd diogelwch y wlad wedi rhoi’r gorau i ymosod arnyn nhw, er mwyn lleihau’r tensiynau yno ac osgoi rhagor o anafiadau.

Bu miloedd o bobl yn aros mewn gwersyll dros dro yn Sgwâr Perl Manama neithiwr.

Dechreuodd y protestiadau ddydd Llun, gan alw ar frenhiniaeth Sunni y wlad i ildio’u gafael.

Mae mwyafrif Shiiaidd y wlad wedi cwyno ers blynyddoedd eu bod nhw ar gyrion y gymdeithas.

Erbyn hyn mae yna hefyd alwadau ar y llywodraeth i ddarparu mwy o swyddi a gwell cartrefi, ac i ryddhau bob carcharor gwleidyddol.

Mae rhai hefyd wedi galw am ddileu’r frenhiniaeth sydd wedi arwain Bahrain am 200 mlynedd.