Llun o 1860 yn dangos olion hen wareiddiad Dyffryn Indus
Mae gwyddonwyr o Aberystwyth wedi helpu i ddangos mai newid hinsawdd a ddistrywiodd un o wareiddiadau cynnar pwysica’r byd.

Trwy osod mapiau digidol newydd tros wybodaeth gynharach, fe lwyddodd tîm rhyngwladol o wahanol ddisgyblaethau i brofi mai sychder a arweiniodd at ddiflaniad diwylliant yr Harappa.

Tua 4,500 o flynyddoedd yn ôl, roedd hwnnw’n ymestyn tros ardal eang yn nalgylch afon Indus, gan gyrraedd dwyrain Afghanistan ac, o ran technoleg a chyfoeth, roedd yn yr un cae â diwylliannau’r Aifft a Mesopotamia.

Yn y gorffennol, roedd rhai arbenigwyr wedi awgrymu mai rhyfel neu ddigwyddiad tebyg oedd wedi chwalu’r diwylliant ond mae’r dystiolaeth newydd yn dangos yn bendant mai newid hinsawdd oedd y broblem.

Y cefndir

Roedd y tîm yn cynnwys yr Athrawon Mark Macklin a Geoff Duller o Brifysgol Aberystwyth ynghyd â’r fyfyrwraig ymchwil, Julie Durcan.

Yn ôl y gwyddonwyr, roedd yr Harappa’n dibynnu ar lawogydd y monsŵn i fwydo’r afon a dyfrio’u tiroedd a, phan leihaodd y glawogydd, doedd ganddyn nhw ddim systemau irigeiddio i gynnal eu cnydau a’u cyfoeth.