Mahmoud Ahmadinejad
Fe gafodd protestiadau stryd eu hatal yn Iran, wrth i’r awdurdodau ofni gwrthryfel fel yr un yn yr Aifft.

Fe fu ychydig o wrthdaro yn rhai o brif sgwariau’r brifddinas, Tehran, ac fe gafodd nwy dagrau ei ddefnyddio ar brotestwyr wrth iddyn nhw weiddi “Marwolaeth i’r unben”.

Roedd plismyn terfysg wedi lledu trwy ganol Tehran ac wedi amgylchynu cartref un o arweinwyr y gwrthwynebiad i’r Llywodraeth, Mir Hossein Mousavi.

Roedd ef ac un arall o arweinwyr y gwrthwynebiad, Mahdi Karoubi, wedi gofyn am hawl i gynnal protest i gefnogi’r gwrthdystio yn yr Aifft ond fe gafodd hynny’i wrthod.

Fe fu protestiadau cyhoeddus yn 2009 ar ôl honiadau bod yr Arlywydd Mahmoud Ahmadinejad wedi cael ei ethol trwy dwyll.