Mae dathlu mawr yn Tripoli, prifddinas Libya, heddiw wrth i bobl gael cyfle i bleidleisio yn etholiad seneddol cynta’r wlad ers diorseddu’r unben Muammar Gaddafi.

Roedd pobl yn ciwio yn eu miloedd y tu allan i orsafoedd pleidleisio am dros awr cyn iddyn nhw agor yn y brifddinas Tripoli.

Mae plismyn a milwyr yn gwarchod y gorsafoedd pleidleisio gan fod yr etholiad yn digwydd yng nghanol gwrthdaro rhwng gwahanol ranbarthau’r wlad,ofnau am drais a galwadau am foicot.

Er gwaetha’r anghydfod fodd bynnag, mae’n ymddangos bod mwyafrif pobl Libya yn croesawu’r hawl i bleidleisio.

Democrataidd

Mae’r etholiad heddiw’n garreg filltir allweddol wrth i’r wlad symud tuag at drefn ddemocrataidd ar ôl rhyfel cartref chwerw a ddaeth i ben wrth i Gaddafi gael ei ddal a’i ladd ym mis Hydref.

“Rydym yn rhydd o’r diwedd ar ôl blynyddoedd o ofn,” meddai Adam Thabet, deintydd yn Tripoli, wrth ddisgwyl i’w orsaf bleidleisio agor. “Fe wydden ni fod y dydd yma’n dod, ond roedd gennym ofn y byddai’n cymryd amser hir i ddod.”

Mae disgwyl mai gwahanol bleidiau Islamaidd ddod i’r brig yn yr etholiad heddiw, gan arwain at ganlyniad tebyg i etholiadau’r Aifft a Tunisia yn ddiweddar. Y ddwy wlad hon y naill ochr a’r llall i Libya sy’n cael eu hystyried fel crud chwyldroadau’r gwanwyn Arabaidd y llynedd.