Fe wnaeth hunan-fomiwr danio gwregys o ffrwydron yng nghartref aelodau o’i deulu ei hun yng ngorllewin Irac, gan ladd ei gefnder a oedd yn gweithio i’r llywodraeth, a chwe pherthynas arall.

Mae’r ffrwydrad yn ninas Ramadi’n dangos y graddau y mae eithafiaeth yn dal i rannu’r lleiafrif o Fwslimiaid Sunni yn Irac, gyda rhai’n gweitho gyda therfysgwyr al-Qaida ac eraill yn cefnogi’r llywodraeth sy’n cael ei arwain gan Fwslimiaid Shiite.

Mae’r lladd yn rhan o gynnydd mewn trais chwe mis ar ôl i’r milwyr olaf o America adael.

Fe aeth y bomiwr i gartref ei gefnder neithiwr wrth i’r teulu estynedig ddod at ei gilydd am swper, yn ôl yr heddlu lleol. Aeth at y cefnder, a oedd yn swyddog milwrol gyda’r llywodraeth, a thanio’i ffrwydron, gan ladd ei darged yn ogystal â’i wraig, tri o’u plant, ei frawd a pherthynas arall.