Mae dynes fu’n aelod o’r Red Army Faction wedi ei chael yn euog o gymryd rhan yn llofruddiaeth Prif Erlynydd Gorllewin yr Almaen yn 1977.

Cafodd Verena Becker ei dedfrydu i bedair blynedd dan glo yn Stuttgart heddiw.

Yn wreiddiol roedd Becker wedi ei chyhuddo o lofruddio Siegfried Buback, ei chauffeur a’i warchodwr.

Ond gollyngwyd y cyhuddiadau ac fe’i cafwyd yn euog o hwyluso’r llofruddiaethau.