Fukushima
Fe fydd ynni niwclear yn cael ei gynhyrchu yn Siapan heddiw am y tro cyntaf ers y daeargryn a tsunami y llynedd.

Fe fydd adweithydd yn Ohi yng ngorllewin Siapan yn ail-ddechrau cynhyrchu trydan.

Cafodd adweithyddion niwclear y wlad i gyd eu cau yn sgil y daeargryn gan adael y wlad heb drydan oedd wedi ei gynhyrchu gan ynni niwclear am y tro cyntaf ers 1970.

Dywedodd y llywodraeth a’r cwmni sy’n cynnal yr adweithydd yn Ohi bod yn rhaid ail-ddechrau’r adweithydd er mwyn hybu’r cyflenwad trydan dros fisoedd yr haf. Ond mae ’na wrthwynebiad mawr i’r penderfyniad ymhlith pobl Siapan, gyda phrotestiadau’n cael eu cynnal tu allan i swyddfa’r prif weinidog.

Adroddiad

mae disgwyl i adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi heddiw gan bwyllgor seneddol fu’n ymchwilio i’r argyfwng yn Fukushima, pan ffrwydrodd yr adweithydd yn sgil y tsunami gan ollwng ymbelydredd.

Mae’r pwyllgor, gafodd ei benodi gan y senedd ym mis Rhagfyr, wedi cyfweld â channoedd o weithwyr mewn atomfeydd, swyddogion cwmnïau a’r llywodraeth ynghyd â’r cyn-brif weinidog Naoto Kan.

Mae’n cynnwys “argymhellion ar gyfer y dyfodol” ac mae’r pwyllgor yn annog y llywodraeth i’w gweithredu’n syth. Mae disgwyl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi’n ddiweddarach heddiw.

Yn y cyfamser mae adroddiad gan grwpiau eraill wedi bod yn feirniadol iawn o’r ffordd roedd y llywodraeth wedi delio gyda’r argyfwng, gan gynnwys diffyg cyfathrebu rhwng y llywodraeth a’r cwmni oedd yn cynnal yr adweithydd – Tokyo Electric Power Co – neu Tepco – a methiant y ddau i roi gwybodaeth bwysig i’r cyhoedd am yr ymbelydredd oedd yn gollwng o’r safle.

Dywed swyddogion bod y sefyllfa yn Fukushima wedi sefydlogi er y bydd yn cymryd degawdau i’w ddadgomisiynu.