Arlywydd Yemen
Mae Arlywydd Yemen wedi gohirio taith i’r Unol Daleithiau oherwydd protestiadau cyhoeddus yn erbyn ei lywodraeth.

Ddoe fe fu milwyr a phlismyn arfog yn taro miloedd o wrthdystwyr wrth iddyn nhw brotestio yng nghanol y brifddinas Sana’a.

Maen nhw’n galw am ymddiswyddiad yr Arlywydd, Ali Abdullah Saleh, sydd eisoes wedi dweud na fydd yn cynnig yn yr etholiadau nesa’ yn 2013.

Yn ôl asiantaeth newyddion swyddogol Yemen, mae wedi canslo ymweliad â Washington y mis nesa’, ‘oherwydd yr amgylchiadau’.

Trydydd diwrnod

Dyma’r trydydd diwrnod o brotestiadau a’r rheiny wedi eu sbarduno gan lwyddiant  y protestwyr yn yr Aifft yn llwyddo i ddisodli’r Arlywydd Mubarak.

Yn ôl llygad dystion, roedd heddlu yn eu dillad eu hunain wedi ymuno gyda’r milwyr i guro’r gwrthdystwyr.

Mae straeon heddiw hefyd am gynnydd yn nifer y ffoaduriaid o Tunisia sy’n mentro ar draws y Môr Canoldir i’r Eidal.

Fe gafodd yr Arlywydd ei ddisodli yno ganol y mis diwetha’.