Mae dyn oedd yn wynebu colli ei gartref wedi saethu’n farw pedwar o bobl cyn lladd ei hun yn yr Almaen.

Roedd y dyn i fod i adael ei fflat yn Karlsruhe yn yr Almaen am fethu â thalu ei rent.

Cafodd un o feilïaid y llys, saer cloeon, un person arall a’r tenant oedd i fod i symud i mewn i’r fflat i gyd eu saethu’n farw.

Roedd yr heddlu’n credu’n wreiddiol ei fod wedi cadw rhai o’r bobl yn wystlon ond ar ôl torri mewn i’r adeilad fe ddaeth yr heddlu o hyd i’r cyrff.