Mae ’na bryderon bod un person wedi ei ladd ac eraill wedi eu cadw’n wystlon gan ddyn arfog ar ôl i feilïaid geisio ei symud o’i fflat yn yr Almaen.

Dywed yr heddlu yn Karlsruhe bod dau o feilïaid wedi cyrraedd yr adeilad tua 9 bore ma i symud y dyn am beidio talu rhent, ac yna clywyd sŵn gwn yn cael ei danio sawl gwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod ’na adroddiadau bod un person  wedi ei ladd a nifer wedi eu cadw’n wystlon ond nad oedd yn bosib cadarnhau’r adroddiadau ar hyn o bryd.

Mae ardal Nordstadt yn y ddinas wedi ei gau tra bod timau arbenigol yr  heddlu yn ceisio cysylltu â’r dyn.