Mae dynes oedd wedi llofruddio ei mab a’i merch mewn gwesty yn Sbaen wedi cael ei dedfrydu i 30 mlynedd yn y carchar.

Roedd Lianne Smith, 45, wedi cyfaddef iddi fygu ei mab Daniel, 11 mis oed, a’i merch 5 oed Rebecca gyda bag plastig yng ngwesty’r Miramar yn Lloret de Mar ar y Costa Brava ym mis Mai 2010.

Wrth ei dedfrydu heddiw, dywedodd y barnwr Adolfo Garcia Morales ei fod yn carcharu Smith am 15 mlynedd am bob un llofruddiaeth.

Fis diwethaf roedd llys yn Girona wedi dyfarnu bod Smith yn gyfrifol am farwolaeth y plant.

Roedd yr amddiffyniad wedi honni bod Smith yn dioddef o broblemau seiciatryddol ac yn bryderus iawn pan ddigwyddodd y drasiedi.

Dywedodd y barnwr Garcia Morales ei fod yn rhoi’r lleiafswm dedfryd am lofruddiaeth iddi oherwydd ei fod o’r farn ei bod yn dioddef o “aflonyddwch meddyliol” i ryw raddau pan wnaeth gyflawni’r drosedd.