Amgueddfa yr Aifft
Mae Amgueddfa’r Aifft wedi cyhoeddi bod lladron wedi cipio 18 o eitemau yn ystod y protestiadau yn erbyn y Llywodraeth dros yr wythnosau diwethaf.

Mae’r creiriau coll yn cynnwys dau gerflun pren goreurog o Tutankhamun, yn ôl y pennaeth hynafiaethau.

Y cerflun pwysicaf sydd ar goll yw un calchfaen o’r Ffaro Akhenaten.

Mae’r amgueddfa ar ymyl Sgwâr Tahrir, oedd yn llaw protestwyr am 18 diwrnod yn ystod yr ymgyrch i orfodi’r cyn-Arlywydd Hosni Mubarak i adael ei swydd.

Torrodd lladron i mewn i’r amgueddfa ar 28 Ionawr drwy ddringo dihangfa dân i do’r adeilad a dringo i lawr rhaffau drwy baneli gwydr ar y nenfwd.

Cafodd 70 o greiriau – y rhan fwyaf yn gerfluniau bach – eu difrodi.

“Y cerflun o Ffaro Akhenaten oedd y pwysicaf, o safbwynt artistig,” meddai cyfarwyddwr yr amgueddfa, Tarek el-Awady.

“Roedd o’n frenin unigryw ac mae hi’n ddarn prydferth o gelf.

“Rydyn ni’n edrych ymhobman am y creiriau sydd ar goll – o gwmpas yr amgueddfa, ar y to, y tu allan.

“Rydyn ni’n gweddïo i Dduw na fydd yna noson arall fel hon.”