Barack Obama
Mae’r ddau ymgeisydd am Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau bron yn hollol gyfartal yn y polau piniwn cyn cyfnod o seibiant yn yr ymgyrchu caled tros wyliau’r haf.

Yr Arlywydd Barack Obama a’r Democratiaid sy’n dal i fod ar y blaen ond mae’r bwlch rhyngddo a’r ymgeisydd Gweriniaethol, Mitt Romney, yn rhy fach i fod o bwys.

Yn ôl sylwebwyr yn yr Unol Daleithiau ei hun, problemau economaidd sy’n llesteirio ymgyrch Barack Obama, gyda ffigurau diweithdra’n parhau’n uchel.

Ond fe gafodd newyddion da ddiwedd y mis diwetha’ wrth i’r Goruchaf Lys gefnogi ei ddiwygiadau i’r system iechyd.

Mae wedi dod yn amlwg hefyd fod staff yr Arlywydd yn poeni am fod Mitt Romney’n llwyddo i godi rhagor o arian nag ef – elfen allweddol mewn etholiadau yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r ddau ymgeisydd yn cymryd hoe yr wythnos yma oherwydd dathliadau 4 Gorffennaf, Diwrnod Annibyniaeth.

Y disgwyl yw y bydd yr haf yn gymharol dawel cyn i’r ymgyrchu ailafael o ddifri yn yr hydref.