Mae gwrthryfelwyr Syria wedi wfftio cynllun diweddaraf y Cenhedloedd Unedig er mwyn sicrhau heddwch yn y wlad.

Dywedodd rai o arweinwyr y gwrthryfelwyr bod y cynllun yn “amwys” ac yn “wastraff amser”. Mynnwyd na fydden nhw’n trafod â’r Arlywydd Bashar Assad ac aelodau ei weinyddiaeth “llofruddiog”.

Roedd cynhadledd ryngwladol yn Genefa ddoe wedi derbyn cynllun cennad arbennig y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan, i greu llywodraeth dros dro yn y wlad.

Ond mynnodd Rwsia bod y cytundeb yn caniatáu i arlywydd presennol Syria fod yn rhan o’r weinyddiaeth newydd. Cytunodd yr Unol Daleithiau i’r amod hwnnw.

Serch hynny mae gwrthryfelwyr Syria wedi gwrthod y cynllun gan ddweud na ddylai Bashar Assad fod yn rhan o’r llywodraeth newydd.

“Onid ydyn nhw’n gweld sut y mae pobol Syria yn cael eu lladd?” gofynnodd Haitham Maleh, un o arweinwyr y gwrthryfel.

“Mae’n gyflafan, mae’r wlad wedi ei dinistrio – ac maen nhw eisiau i ni rannu bwrdd gyda’r llofrudd?

“Pobol Syria fydd yn penderfynu pwy sy’n ennill y frwydr yma, nid y rheini sy’n eistedd yn Genefa na Efrog Newydd nag unrhyw le arall.”