Guenzburg, Almaen
Mae awdurdodau yn yr Almaen yn dweud bod un person wedi ei ladd a nifer wedi eu hanafu yn ystod stormydd difrifol yn ne’r wlad dros nos.

Dywedodd yr heddlu bod merch 24 oed wedi ei lladd ar heol ger Guenzburg, yn nhalaith Bafaria.

Disgynnodd coeden oedd wedi ei rwygo o’r llawr gan y gwynt ar ben ei char brynhawn ddydd Sadwrn.

Cafodd gyrrwr arall ei hanafu yn ddifrifol pan lithrodd ei char mewn glaw a chenllysg trwm ar draffordd ger Wuerzburg cyn taro coed a throi drosodd.

Cafodd 10 o bobol eu hanafu yn Heidenheim, yn ne-orllewin yr Almaen heddiw, pan gafodd eu pebyll eu llusgo i ffwrdd gan y gwynt mewn gŵyl cerddoriaeth roc.