Roedd yn gofyn 100,000 Yen am ei gig
Mae Heddlu Siapan yn holi artist dadleuol wnaeth fwydo ei ddarnau preifat i griw o bobol.

Yn ôl y Sun yr wythnos hon roedd Mao Sugiyama wedi rhewi ei bidlen a’i beli, ar ôl i lawfeddyg eu torri bant fis Mawrth.

Fis yn ddiweddarach roedd y darlunydd “asexual” wedi dadrewi ei dacl a’i goginio, gan godi £160 am ddarn ohono’i hun.

Mae Maer ward Suginami, lle y bu i’r bwydo fynd rhagddo, wedi gofyn i swyddogion ymchwilio yn dilyn cwynion gan drigolion lleol sydd wedi eu cythruddo.

Gallai unrhyw gyhuddiadau ymwneud ag arddangos deunydd gwaradwyddus mewn man cyhoeddus, ac mae arolygwyr hylendid bwyd hefyd yn edrych yn ofalus i weld a gafodd unrhyw reolau ‘glendid wrth baratoi bwyd’ eu torri.

Ar Ebrill yr wythfed roedd Mao wedi trydar: “Rydw i’n cynnig fy narnau preifat (pidlen gyfan, ceilliau a cheillgwd) yn bryd o fwyd am 100,000 Yen…byddaf yn paratoi a choginio’r pryd yn unol â chais y prynwr, mewn lleoliad o’i ddewis ef/hi.”

Mi wnaeth pump o bobol dalu am y wledd, a’r cig yn cael ei weini gyda madarch a pharsli.