Mosg al Askari
Mae 36 o bererinion bellach wedi marw yn Irac ar ôl ymosodiad gan hunan-fomiwr.

Roedden nhw i gyd yn Foslemiaid Shiite ac ar eu ffordd adre’ mewn bws o seremoni grefyddol ym mosg enwog Al Askari.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn tref o’r enw Samarra, tua 60 milltir i’r gogledd o’r brifddinas, Baghdad.

Mae ymosodiadau wedi bod o’r blaen ar y mosg, gan gynnwys un yn 2006 pan ddifrodwyd y gromen aur sydd arno.

Moslemiaid Sunni oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad hwnnw.