Mae naw o bobl wedi eu lladd a mwy na 40 wedi eu hanafu ar ôl i gyfres o fomiau ffrwydro ger prifddinas Irac.

Roedd bomiau mewn dau gar wedi ffrwydro tu allan i un o swyddfeydd y llywodraeth yn ninas Taji, i’r gogledd o Baghdad, gan ladd pump o bobl ac anafu 18.

Ychydig oriau’n ddiweddarach, roedd un o gerbydau’r heddlu wedi taro bom ar ochr y ffordd yn ne Baghdad. Cafodd un person ei ladd a chwech eu hanafu.

Ac fe ffrwydrodd bom mewn car tu allan i farchnad mewn ardal Shiaidd yng ngorllewin Baghdad yn ddiweddarach, gan ladd tri ac anafu 17.

o gwmpas prifddinas Irac.