Yr Arlywydd Bashar Assad
Mae dynion arfog wedi ymosod ar bencadlys gorsaf deledu yn Syria sydd o blaid y Llywodraeth, gan ladd saith o weithwyr a chipio rhai eraill.

Mae’r orsaf Al-Ikhbariya yn gefnogol iawn i Lywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad.

Mae nifer o ymosodiadau wedi bod ar newyddiadurwyr sy’n cefnogi’r llywodraeth dros y 15 mis diwethaf.

Ond mae gwrthryfelwyr yn gwadu eu bod nhw’n targedu’r cyfryngau.

Yn ôl un o weinidogion y llywodraeth, roedd dynion arfog wedi gosod ffrwydron yn yr adeilad yn nhref Drousha, yn ne’r brifddinas Damascus, ac yna eu tanio. Cafodd saith o bobl eu lladd a rhai eraill eu herwgipio.