Nora Ephron a'i gwr Nicholas Pieggi
Mae’r awdur a’r sgriptwraig Nora Ephron, wedi marw yn Efrog Newydd yn 71 oed.

Roedd hi wedi bod yn dioddef o lewcemia.

Nora Ephron oedd yn gyfrifol am ysgrifennu a chyfarwyddo’r ffilmiau Sleepless in Seattle, When Harry Met Sally a Julie & Julia.

Roedd ei llyfrau yn cynnwys y nofel Heartburn, lle mae’n disgrifio ei phriodas â’i chyn-wr, gohebydd y Washington Post, Carl Bernstein.

Cafodd ei henwebu am Oscar deirgwaith yn ystod ei gyrfa.

Mae hi’n gadael ei gŵr, Nicholas Pileggi, a dau o blant.