Mae Nato wedi condemnio Syria am iddi anwybyddu “heddwch, diogelwch a bywyd dynol” wrth saethu awyren o Dwrci i lawr.

Mewn datganiad yn dilyn trafodaethau brys ym Mrwsel, dywedodd Nato: “Rydym yn ystyried hon yn weithred annerbyniol ac yn ei chondemnio i’r graddau mwyaf posibl.”

Eglurodd Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Anders Fogh Rasmussen, fod y trafodaethau wedi eu cynnal yn unol â Chymal 4 deddf sefydlu’r corff, sy’n egluro bod cynghreiriaid yn cael gwybod pan fod un ohonyn nhw’n teimlo bod eu ‘gonestrwydd tiriogaethol, eu hannibyniaeth wleidyddol neu eu diogelwch” yn cael eu bygwth.

Ond ychwanegodd na chafodd yr ymosodiad yn erbyn Twrci ei drafod yn unol â Chymal 5, sy’n nodi bod ymosodiad ar un o’r cynghreiriaid yn ymosodiad arnyn nhw i gyd.

Dywedodd Anders Fogh Rasmussen: “Mae’r cynghreiriaid wedi mynegi cefnogaeth gref a solidariaeth i Dwrci.

“Fy nisgwyliad clir yw na fydd y sefyllfa’n parhau i waethygu. Mae’r hyn a welsom yn weithred gwbl annerbyniol a byddwn ni’n disgwyl i Syria gymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn atal y fath ddigwyddiad eto yn y dyfodol.”

Heddiw, rhoddodd y trafodaethau sylw i’r amgylchiadau a arweiniodd at ymosodiad gan Syria ar awyren o Dwrci.

Roedd yr awyren yn hedfan dros arfordir Syria ddydd Gwener pan gafodd ei saethu i lawr, a phlymiodd i’r môr. Nid yw’r ddau beilot wedi eu darganfod hyd yn hyn.