Y Prif Weinidog Antonis Samaras
Mae’r bancwr gafodd ei benodi i fod yn weinidog cyllid newydd Gwlad Groeg wedi ymddiswyddo oherwydd problemau iechyd, tridiau ar ôl iddo gael ei gludo i’r ysbyty.

Yn y cyfamser, mae’r Prif Weinidog Antonis Samaras yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei lygad.

Roedd Vassilis Rapanos, cadeirydd Banc Cenedlaethol Gwlad Groeg, wedi cael ei benodi’n weinidog cyllid y llywodraeth glymblaid newydd wythnos ddiwethaf ond cafodd ei daro’n wael ddydd Gwener cyn iddo dyngu llw.

Mae trafferthion ariannol Gwlad Groeg wedi cael eu rhoi o’r neilltu am y tro wrth i aelodau o’r llywodraeth newydd ymdopi â’u problemau iechyd.

O ganlyniad mae’r Almaen wedi rhybuddio ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw benderfyniadau mawr yn cael eu gwneud am argyfwng Gwlad Groeg yn ystod cynhadledd yr Undeb Ewropeaidd yn ddiweddarach yr wythnos hon. Fe fydd Antonis Samaras yn gorfod aros adre am rai dyddiau eto ac ni fydd yn cael teithio i Frwsel ar gyfer y gynhadledd.

Roedd disgwyl i arolygwyr rhyngwladol ymweld ag Athen yr wythnos hon i arolygu sefyllfa ariannol Gwlad Groeg ond mae’r ymweliad bellach wedi cael ei ohirio.