Mae dyn 21 oed o Brydain yn wynebu’r gosb eithaf wedi iddo gael ei ddal yn gwerthu mariwana i heddwas cudd yn Abu Dhabi.
Cafodd dyn 19 oed o Syria, hefyd ei ddedfrydu i farwolaeth am werthu’r cyffur.
Roedd cyfreithwyr ar ran yr amddiffyniad eisoes wedi ymosod ar hygrededd ymchwiliad yr heddlu, oherwydd doedd y tyst ddim yn gwybod cyfeiriad y diffynnydd.
Roedd yr heddlu hefyd yn honni fod y dyn o Syria wedi gofyn i’r Prydeiniwr gael y cyffuriau allan o’r car yn Arabeg.
Ond doedd hynny ddim yn gwneud synnwyr, meddai’r cyfreithiwr, gan nad oedd y Prydeiniwr yn gallu siarad Arabeg.
Cafodd y ddau ddyn eu dal ar ôl i’r heddwas cudd brynu 20 gram o fariwana gwerth £262.