Cafodd 14 o bobl eu lladd ar ôl i fws daro yn erbyn coeden yng ngogledd India.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, cafodd o leiaf 24 o deithwyr eu hanafu yn y ddamwain ger tref Amroha yn nhalaith Uttar Pradesh.

Mae’r heddlu’n chwilio am y gyrrwr, oedd wedi ffoi ar ôl y ddamwain. Mae’n debyg ei fod wedi bod yn goryrru.

Roedd tua 60 o bobl ar y bws, a’r rhan fwyaf yn dychwelyd ar ôl seremoni grefyddol yn nhref Haridwar.

Cafodd y rhai oedd wedi eu hanafu eu cludo i’r ysbyty – dywed doctoriaid bod saith ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Mae 110,000 o bobl yn cael eu lladd mewn damweiniau ffordd yn India bob blwyddyn.