Pwy fydd olynydd Mubarak?
Mae trigolion yr Aifft yn disgwyl i glywed heddiw pwy fydd eu harlywydd newydd.

Mae un o brif swyddogion etholiadol y wlad wedi dweud y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud heddiw.

Y ddau sydd yn y ras ydi Mohammed Morsi o’r Muslim Brotherhood a Ahmed Shafiq oedd yn Brif Weinidog yng nghyfnod y cyn arlywydd Hosni Mubarak.

Mae miloedd o bobl wedi ymgynnull yn Sgwâr Tahrir yng Nghairo i ddisgwyl am y cyhoeddiad, y mwyafrif ohonyn nhw’n cefnogi’r Muslim Brotherhood.

Mae’r cyhoeddiad ynglŷn â phwy sydd wedi ennill yr etholiad wedi cael ei ohirio am dri diwrnod ac mae ’na nifer o bobl yn yr Aifft yn pryderu bod y cadfridogion sydd bellach yn rheoli’r llywodraeth yn cynllwynio y tu ôl i’r llenni er mwy sicrhau mwy o bŵer iddyn nhw eu hunain. Y cadfridogion sydd hefyd bellach yn rheoli polisi diogelwch cenedlaethol y wlad.