Mombasa. Llun: Victor Ochieng
Mae llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Kenya wedi rhybuddio fod perygl bod ymosodiad ar fin digwydd ar borthladd Mombasa.
Maen nhw wedi gofyn i holl weithwyr y llywodraeth i adael.
Mae swyddogion o’r Unol Daleithiau hefyd wedi cael eu rhybuddio i beidio â theithio i’r ddinas.
Mae Ffrainc hefyd wedi rhybuddio ei dinasyddion i fod yn “wyliadwrus iawn” ym Mombasa.
Dywed heddlu Kenya eu bod nhw’n holi dau ddyn o Iran ynglŷn â’u cysylltiadau â rhwydwaith o derfysgwyr sy’n cynllunio ymosodiadau ar Mombasa a Nairobi.
Mae’r grŵp Islamaidd al-Shabab wedi bygwth cynnal ymosodiadau yn Kenya ar ôl i filwyr o Kenya ymladd yn erbyn al-Shabab yn Somalia.