Mae wyth person o Tsiecoslofacia oedd ar wyliau yng Nghroatia wedi cael eu lladd mewn damwain bws yn gynnar bore heddiw.

Digwyddodd y ddamwain ar y brif ffordd rhwng Zagreb, prifddinas Croatia a’r ddinas ar lan yr Adriatig, Split.

Mae’n ymddangos fod y bws wedi gwrthdaro yn erbyn rhwystrau metel ar ganol y ffordd ac wedi troi drosodd ar ochr arall y ffordd.

Anafwyd 44 o bobl hefyd yn y ddamwain. Mae’r mwyafrif ohonyn nhw yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn nhref Gospic. Mae tri pherson sydd wedi cael eu hanafu’n ddifrifol yn derbyn triniaeth mewn ysbyty yn Zagreb.