Arlywydd Assad
Mae Arlywydd Bashar Assad o Syria wedi ffurfio llywodraeth newydd, meddai asiantaeth newyddion y wlad prynhawn ʼma.

Mae wedi penodi Riad Farid Hijab fel Prif Weinidog.  Mae’n aelod o blaid yr Arlywydd – plaid y Baath – ac mae’n deyrngar i Assad.

Does dim newidiadau o ran y swyddi pwysig eraill oddi fewn y llywodraeth.

Fe roedd Assad wedi addo y byddai’n cynnwys gwleidyddion o bleidiau eraill yn ei lywodraeth ond dyw hynny ddim wedi digwydd, mae’n ymddangos.