Bocsiwr sy’ ar hyn o bryd yn y carchar am ddyrnu domestig, wnaeth y mwya’ o arian ym myd chwaraeon y llynedd.

Fe enillodd Floyd Mayweather Junior £55miliwn yn 2011, gyda’i brif wrthwynebydd yn y sgwar bocsio Manny Pacquiao yn yr ail safle gyda £39.5miliwn.

Roedd Tiger Woods yn drydydd gyda £38 miliwn, a’r model tronsiau tynn/pêl-droediwr David Beckham oedd y Prydeiniwr uchaf, yn yr wythfed safle ac wedi ennill £29 miliwn y llynedd.

Doedd yr un ferch yn y 25 uchaf.