Anders Breivik
Mae’r amddiffyniad wedi cychwyn cyflwyno’u dadleuon terfynol yn achos y llofrudd lluosog Anders Breivik, sydd wedi para 10 wythnos yn Norwy.

Fe ddywedodd y cyfreithiwr Geir Lippestad wrth y llys yn Oslo bod ei gleient yn cyfaddef iddo ladd 77 o bobol trwy eu lladd a’u saethu.

Roedd y ffaith fod “Norwy fach, ddiogel wedi ei tharo gan ymosodiad terfysgol o’r fath bron yn amhosib i’w ddeall”.

Yn ôl Lippestad fe allai hynny esbonio pam bod arbenigwyr seiciatrig wedi dod I gasgliadau gwahanol am gyflwr meddyliol Breivik.

Mae disgwyl i’r amddiffyniad gloi trwy ddadlau nad yw’r erlyniad yn gywir i ddweud bod y terfysgwr gwrth-Foslemaidd yn wallgof ac angen ei anfon i ysbyty meddwl.