Mae awdurdodau etholiadol yr Aifft wedi gohirio cyhoeddi enillydd yr etholiad arlywyddol ond nid oes dyddiad wedi ei bennu.

Roedd disgwyl i’r comisiwn etholiadol gyhoeddi’r canlyniadau heddiw ond maen nhw wedi cyhoeddi eu bod yn ymchwilio i gwynion gan rai ymgeiswyr.

Fe fydd panel o farnwyr yn gorfod ystyried tua 400 o gwynion ynglŷn â phleidleisiau ar gyfer Ahmed Shafiq, cyn brif weinidog Hosni Mubarak, ac ymgeisydd y Muslim Brotherhood, Mohammed Morsi.