Benazir Bhutto
Mae barnwr mewn llys gwrthderfysgaeth wedi cyhoeddi gwarant i arestio cyn-arlywydd y wlad, Pervez Musharraf.

Yn ôl teledu gwladwriaeth Pakistan mae’n cael ei amau o beidio â gwneud digon er mwyn amddiffyn  y cyn-Brif Weinidog Benazir Bhutto.

Mae’r barnwr Rana Nisar Ahmad wedi gorchymun Pervez Musharraf i ymddangos o flaen llys ar 19 Chwefror.

Cafodd Benazir Bhutto ei lladd ar 27 Rhagfyr, 2007, mewn rali wleidyddol wythnosau ar ôl dychwelyd i Pakistan er mwyn cymryd rhan mewn etholiad.

Gadawodd Pervez Musharraf Pakistan ag ymgartrefu yn Llundain dwy flynedd yn ôl, a does ganddo ddim bwriad dychwelyd ar hyn o bryd.

Dywedodd ei lefarydd Saif Ali Khan y bydd yn amddiffyn ei hun o flaen llys “pan mae’r amser yn iawn”.