Y dathlu yng nghanol Cairo (Gwifren PA)
Roedd yna ddathlu trwy’r nos yn yr Aifft ar ôl i’r Arlywydd Hosni Mubarak ymddiswyddo.

Yn ôl adroddiadau lleol, roedd pobol yn cofleidio’i gilydd, yn codi milwyr ar eu hysgwyddau ac yn cael tynnu eu lluniau o flaen tanciau.

Ond mae sylw gwledydd mawr y byd wedi troi at yr hyn sy’n digwydd nesa’ wrth i wlad fwya’r Dwyrain Canol wynebu ansicrwydd mawr.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi mynegi ffydd y bydd pobol y wlad yn llwyddo i symud yn heddychlon at ddemocratiaeth.

Ac mae Ysgrifennydd Tramor Prydain wedi pwysleisio bod rôl allweddol gan y fyddin, sydd wedi dweud y byddan nhw’n cyhoeddi’r camau nesa’ cyn bo hir.

Yn ôl rhai sylwebwyr, mae gwledydd y Gorllewin mewn penbleth wrth weld eu prif bartner ymhlith y gwledydd Arabaidd yn mynd.

Ers blynyddoedd, roedd yr Unol Daleithiau a gwledydd Prydain wedi gorfod cyfaddawdu rhwng cefnogi unben a chadw sefydlogrwydd y Dwyrain Canol.

Meddai Obama

“Mae pobol yr Aifft wedi llefaru a fydd yr Aifft fyth yr un peth eto,” meddai Barack Obama yn Washington. “Fe ymatebodd yr Arlywydd Mubarak i newyn y bobol am newid, ond nid dyma’r diwedd; dechrau yw hyn.

“Ond rwy’n hyderus y bydd pobol yr Aifft yn dod o hyd i’r ateb ac y byddan nhw’n gallu gwneud hynny’n heddychlon, yn adeiladol ac yn yr ysbryd unol sydd wedi ei ddangos yn ystod yr wythnosau diwetha’.”

Meddai Hague

“Byddai unrhyw ymgais i droi’r cloc yn ôl yn niweidiol iawn i sefydlogrwydd ac undod yr Aifft ac i’w lle yn y byd, ac fe fyddai’n cael ei gondemnio,” meddai William Hague, wrth bwysleisio cyfrifoldeb yr arweinwyr milwrol sydd bellach yn rheoli’r wlad.

“Nid dyma’r amser i fod yn wangalon. Mae’r Eifftiaid wedi dangos eu bod eisiau newid di droi’n ôl er gwell, nid newid arwynebol.”