Y protestwyr adeg araith Mubarak
Mae disgwyl protestiadau mwy nag erioed yn yr Aifft heddiw ar ôl i’r Arlywydd Hosni Mubarak wrthod ymddiswyddo.

Ar ôl disgwyl cyhoeddiad ei fod yn mynd ar unwaith, fe drodd dathlu’n ddicter i dorf anferth yn Sgwâr Tahrir yng nghanol y brifddinas Cairo.

Fe ddechreuon nhw floeddio a chwifio’u hesgidiau hanner ffordd trwy araith deledu gan yr Arlywydd – mae hynny’n arwydd o ddirmyg eitha’ yn y byd Arabaidd.

Fe rybuddiodd yr enillydd Nobel, Mohamed ElBaradei, wedi rhybuddio y bydd y wlad yn “ffrwydro” ar ôl yr araith neithiwr ac fe alwodd ar i’r fyddin ymyrryd.

Y disgwyl yw y bydd y protestiadau’n dechrau ar ôl yr awr weddïo tua hanner dydd heddiw gyda phrotestiadau yn holl ddinasoedd mawr y wlad.

Yr araith

Doedd addewid Mubarak i drosglwyddo grym i’w ddirprwy, Omar Suleiman, ac i ymddeol ym  mis Medi ddim yn ddigon – ynghynt roedd un o benaethiaid y fyddin wedi dweud y byddai holl alwadau’r protestwyr yn cael eu cwrdd.

Roedd yr Arlywydd yn mynnu bod angen iddo aros yn ei swydd er mwyn sicrhau bod grym yn cael ei drosglwyddo’n esmwyth, ond roedd y protestwyr yng Nghairo’n mynnu nad oedd hynny’n ddigon.

Amheuon

Mae arweinwyr rhyngwladol – gan gynnwys yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague – wedi codi amheuon hefyd am fanylion cyhoeddiad Mubarak.

“Mae gormod o Eifftiaid heb eu hargyhoeddi bod y Llywodraeth o ddifri ynglŷn â symud gwirioneddol at ddemocratiaeth,” meddai’r Arlywydd Obama yn yr Unol Daleithiau.

“Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw siarad yn glir gyda phobol yr Aifft a’r byd.”