Yr Aifft

Mae disgwyl i Arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak, gyhoeddi ar deledu’r wlad heno ei fod yn ymddiswyddo.

Mae arwyddion clir mai’r fyddin sy’n rheoli’r wlad bellach a bod Mubarak wedi colli ei afael ar rym ar ôl 17 diwrnod o brotestiadau’n galw am ei ymddiswyddiad.

Mae uwch-gyngor milwrol y wlad wedi cyhoeddi ei gefnogaeth i “ofynion y bobl”.

Dywedodd llefarydd fod y cyngor wrthi ar hyn o bryd yn ystyried “pa fesurau a threfniadau y gellid eu gwneud i ddiogelu’r genedl, ei llwyddiannau ac uchelgeisiau ei phobl.”

Yn ogystal, mae’r Cadfridog Hassan al-Roueini, comander milwrol ardal Cairo, wedi dweud wrth filoedd o brotestwyr yng nghanol Sgwar Tahrir: “Fe fydd eich holl ofynion yn cael eu bodloni heno.”

Mae pennaeth y blaid wleidyddol sydd mewn grym, Hossan Badrawy, wedi dweud wrth newyddiadurwyr ei fod yn disgwyl i Hosni Mubarak annerch y genedl a gwneud cyhoeddiad a fydd yn bodloni eu gofynion.

Daw’r datblygiad diweddaraf ar ôl i feddygon mewn cotiau gwyn a chyfreithwyr mewn gwisgoedd du ymuno â streicwyr yn Sgwar Tahrir yn Cairo heddiw gan roi momentwm pwerus ychwanegol i’r don o aflonyddwch yn erbyn y llywodraeth.

Yn gynharach, roedd y Gweinidog Tramor rhybuddio y byddai’r fyddin yn cael ei defnyddio i sicrhau cyfraith a threfn pe byddai’r protestwyr yn parhau gyda’u gwrthdystiadau. 

Ymchwilio i lygredd

Yn y cyfamser, mae ymchwiliad ffurfiol i lygredd wedi cael ei lansio yn erbyn tri o gyn-weinidogion llywodraeth yr Aifft, a chyn-swyddog blaenllaw yn y blaid sy’n rheoli’r wlad.

Yn ôl teledu’r Aifft, mae’r ymchwiliad yn targedu’r cyn-weinidog Masnach Rachid Mohammed Rachid, y cyn-weinidog Twristiaeth Zuhair Garana, a’r cyn-weinidog Tai Ahmed Maghrabi.

Roedd y tri’n rhan o’r cabinet a gafodd y sac gan yr Arlywydd Hosni Mubuarak dros wythnos yn ôl.

Y llall sy’n cael ei dargedu yw Ahmed Ezz, cyn-swyddog blaenllaw o’r blaid sy’n rheoli’r wlad, sydd hefyd yn gyfaill agos i Gamal, mab Hosni Mubarak.