Talaith Queensland yn Awstralia
Mae prif weinidog Awstralia wedi cyflwyno mesur ar gyfer treth newydd o flaen senedd y wlad heddiw, er mwyn codi arian i ddelio â chost y llifogydd a’r stormydd diweddar yn y wlad.  

Mae’r prif weinidog Julia Gillard yn dweud fod cost y drychineb yn mynd i fod o gwmpas 5.6 biliwn o ddoleri i gyd, wrth ystyried atgyweirio mwyafrif y rhwydweithiau cyhoeddus yn nhalaith Queensland.

Ond mae cost difrod y seiclon a darodd arfordir y dalaith yr wythnos diwethaf eto i’w gyfri.   Byddai’r dreth dan sylw yn codi 1.8 biliwn o ddoleri i  goffrau’r achos, ond byddai’r 3.8 biliwn sy’n weddill yn gorfod dod o doriadau yng nghyllideb prosiectau eraill.

 Mae nifer o’r gwrthbleidiau eisioes wedi gwrthwynebu’r syniad o godi treth ychwanegol er mwyn delio â thrychineb cenedlaethol, tra bod biliynau o arian cyhoeddus yn cael ei wario darmor yn delio ag argyfyngau naturiol eraill.  

Bydd y mesur nawr yn mynd trwy drafodaethau manwl yn y senedd cyn y bydd aelodau yn pleidleisio ar y mater ymhen ychydig wythnosau.

Sychder mawr yn creu problemau i China  

Wrth i Awstralia gyfrif cost difrod llifogydd, mae China yn gorfod cynllunio i wario biliynau o ddoleri er mwyn delio â sychder gwaetha’r  wlad mewn chwe blynedd, sydd wedi effeithio ar ardal dyfu gwenith fwyaf y byd.  

Bydd yr arian yn cael ei wario ar gynlluniau fel dargyfeirio dŵr ac adeiladu ffynhonnau argyfwng yng nghanolbarth a gogledd China, lle mae’r sychder mawr wedi niweidio’r cynhaeaf, ac wedi gwthio pris gwenith i fyny ar y farchnad ryngwladol.  

Dyw prif ardaloedd gwenith China, sy’n cynnwys Shandong, Henan, Hebei, Anhui, Shanxi, Shaanxi, Gansu a Jiangsu, ddim wedi cael bron ddim glaw ers mis Hydref.