Protestio yn Cairo
Mae miloedd o brotestwyr wedi treulio’r nos yn sgwar Tahir yn Cairo ar ôl i’r cyn-Arlywydd, Hosni Mubarak, gael ei anfon i garchar am oes am ei ran ym marwolaeth protestwyr yn ystod y gwrth-ryfel yn yr Aifft llynedd.
Mae’r protestwyr yn flin bod eraill o swyddogion y llywodraeth pryd hynny wedi cael eu canfod yn ddi-euog o fod yn gysylltiedig efo’r marwolaethau.
Cafodd y cyn Weinidog Cartref, Habib al-Adly hefyd ei ddedfrydu i garchar am oes am yr un drosedd a’r Arlywydd, ond fe wnaeth y barnwr gael pedwar o uwch swyddogion al-Adly yn ddi- euog, er fod nifer helaeth yn eu beio nhw hefyd am y marwolaethau.
Mae’r protestwyr yn dweud nad oes unrhyw beth wedi newid ers y gwrthryfel yn yr Aifft yn ystod y gwanwyn llynedd ac yn amau y bydd y ddedfryd yn erbyn Mubarak ac al-Adly yn cael ei wyrdroi ar apêl.
Nid yng Nghairo yn unig y mae’r protestio. Cynhaliwyd raliau hefyd yn Alexandria, Suez a Mansoura.
Dim yn wahanol
Mae llawer o’r Eifftwyr yn pryderu nad oes fawr ddim wedi newid ers disodli Mubarak.
Mae ei gyn Brif Weinidog, Ahmed Shafiq yn un o ddau ymgeisydd sy’n ceisio bod yn Arlywydd nesa’r wlad yn yr etholiadau gaiff eu cynnal ymhen bythefnos ac mae nifer helaeth o swyddogion llywodraeth Moubarak yn parhau wrth eu gwaith.
Mae Mr Shafiq wedi disgrifio’i hun fel “edmygwr mawr” o’r hyn alwodd yn “wrthryfel crefyddol”. Dywedodd ddoe bod dedfryd y llys yn profi nad oes unrhyw un uwchlaw’r ddeddf yn yr Aifft
Aelod o’r Frawdoliaeth Fwslemaidd, Mohammed Morsi ydi’r ymgeisydd arall ac mewn cynhadledd i’r wasg fe wnaeth o addo dod a Mubarak yn ôl o flaen ei well ynghyd â’r holl gyn-swyddogion sydd yn cael eu hamau o fod â chysylltiad efo lladd protestwyr petai yn cael ei ethol.
“Bydd meibion gwrthrfelgar yr Aifft yn parhau efo’u gwrthryfel,” meddai. “Ni fydd stop ar y gwrthryfel.”
Mae meibion Moubarak yn parhau yn y carchar er eu bod wedi eu cael yn ddi-euog o lygredd. Mae Gamal ac Alaa yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â chamdrin y farchnad stoc.