Mae Syria yn llithro’n agosach at gyflwr o ryfel cartref bob dydd medd Llysgennad Heddwch y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan.

Mae Mr Annan yn Doha yn cyfarfod aelodau o Gyngrhair yr Arabiaid a dywedodd bod y sefyllfa yno yn gwaethygu wrth i’r trigolion rannu’n garfannau.

Ychwanegodd bod y gyflafan yn Houla, lle lladdwyd 108 o bobl a phlant yn erchyll a bod yr argyfwng ar fin troi yn ryfel.  Fe wnaeth annog y gymuned ryngwladol i beidio anwybyddu’r perygl yma.

Rhaid, meddai “i ni gadw at y nod; rhoi’r gorau i’r lladd, rhoi cymorth i’r boblogaeth sy’n dioddef, sicrhau newid llywodraeth ac – fe ddylwn ychwanegu hyn – sicrhau na fydd yr argyfwng yn effeithio ar y gwledydd cyfagos.”

Teimlo’n rhwystredig

Mae Mr Annan wedi creu cynllun heddwch chwe phwynt er mwyn dod a’r trais i ben yn Syria ond dywedodd ei fod yn teimlo yn rhwystredig iawn am fod geiriau yr Arlywydd Assad yn wahanol i’w weithrediadau.

Mae cynrychiolydd llywodraeth Quatar yn y cyfarfod wedi dweud bod angen i’r Cenhedloedd Unedig osod dyddiad pendant ar gyfer mabwysiadu cynllun Mr Annan.

Mae’r gwrthbleidiau yn Syria yn credu bod Rwsia yn gwneud drwg yn waeth trwy gefnogi llywodraeth yr Arlywydd Assad.

Dywedodd Burhan Ghalioun o Gyngor Cenedlaethol Syria:

“Wrth gefnogi’r llywodraeth ac Assad mae Rwsia wedi dod yn rhan o’r broblem nid y datrysiad,” meddai. “Os y bydd yn cyd-weithio i ddod o hyd i fformiwla wnaiff i Assad adael yna fe ddaw yn rhan o’r datrysiad,” ychwanegodd.