Hosni Mubarak
Mae cyn-Arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak, wedi cael ei anfon i garchar am oes am ei ran ym marwolaeth protestwyr yn ystod y gwrth-ryfel yn yr Aifft llynedd.
Ef yw’r arweinydd Arabaidd cyntaf i wynebu achos llys gan ei bobl ei hun yn y wlad.
Cafodd y cyn Weinidog Cartref, Habib al-Adly hefyd ei ddedfrydu i garchar am oes am yr un drosedd.
Cafwyd Mubarak a’i feibion Gamal ac Alaa yn ddi- euog o lygredd.
Roedd yna weiddi a sgarmes yn y llys wrth i rai pobl gwyno am benderfyniad y barnwr i gael pedwar o uwch swyddogion Adly yn ddi- euog, gan fod nifer helaeth yn eu beio nhw hefyd am y marwolaethau.
Dathlu mawr oedd yna yn gyntaf y tu allan i’r llys hyd nes i’r dyrfa glywed am ryddhau’r uwch swyddogion.
Roedd miloedd o heddlu wedi amgylchynu’r llys i atal protestwyr a pherthnasau’r rhai laddwyd rhag mynd yn rhy agos i’r adeilad.
Mae Hosni Mubarak yn 84 oed ac oherwydd cyflwr ei iechyd, mae wedi cael ei gadw yn y Ganolfan Feddygol Ryngwladol ar gyrion Cairo yn ystod yr achos, sydd wedi parhau am ddeg mis.
Bu’n gorwedd ar wely ysbyty mewn caets o fariau haearn a gwifrau pigog trwy gydol yr achos.
Yn ôl adroddiadau ar deledu’r Aifft, fe fydd rwan yn cael ei symud i ysbyty carchar Tora ger Cairo ble mae nifer o aelodau ei gyn-lywodraeth yn y carchar am lygredd.
Wrth ei ddedfrydu ef a’r Gweinidog Cartref, dywedodd y Barnwr Ahmed Refaat bod yr achos wedi bod yn un teg a bod cyfnod Mubarak fel Arlywydd wedi bod “yn 30 mlynedd o dywyllwch” gan ganmol “meibion y genedl gododd yn heddychlon dros ryddid a chyfiawnder.”
Roedd Mubarak ac Adly wedi methu atal y lluoedd dioglewch rhag defnyddio grym marwol yn erbyn protestwyr di-arfog meddai’r barnwr.
Cafodd Mubarak ei ddisodli ym mis Chwefror llynedd wedi blwyddyn o drafferthion yn yr Aifft wrth i brotestwyr herio y llywodraeth filitaraidd am fod trosedd wedi cynyddu a’r sefyllfa economaidd wedi dirywio.
Fe fydd meibion Mubarak yn parhau yn y carchar am eu bod yn wynebu cyhuddiadau o gamddefnyddio’r farchnad stoc.
Mae cyn Brif Weinidog Mubarak, Ahmed Shafiq yn un o ddau ymgeisydd sy’n ceisio bod yn Arlywydd nesa’r wlad. Ymgeisydd y Frawdoliaeth Fwslemaidd, Mohammed Morsi ydi’r ymgeisydd arall.