Mae’r marchnadoedd stoc fyd-eang wedi syrthio’n sylweddol heddiw, wrth i bryderon gynyddu y gallai trafferthion ariannol Ewrop ledu i’r Unol Daleithiau a China.

Roedd y data economaidd diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y twf mewn swyddi yn yr Unol Daleithiau ac yn y sector cynhyrchu yn China yn is na’r disgwyl.

Y gobaith oedd y byddai’r gwledydd rheini yn parhau i dyfu ac yn llusgo Ewrop allan o’r twll ariannol y mae hi ynddi.

Ond mae’r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu y gallai’r Unol Daleithiau a China gael eu llusgo i lawr gan drafferthion parth yr ewro.

Yn y Deyrnas Unedig roedd ffigyrau arolwg a gyhoeddwyd y bore ma yn awgrymu bod y sector cynhyrchu wedi crebachu’n sydyn.

Dyma’r ail gwymp mwyaf mewn gweithgaredd yn y sector yn yr 20 mlynedd ers i Markit/CIPS ddechrau cynnal yr arolwg.

Dywedodd Markit bod y ffigyrau yn awgrymu bod economi’r Deyrnas Unedig yn wan iawn, yn ogystal ag economïau gwledydd Ewrop.

Syrthiodd gwerth mynegai stoc cwmnïoedd mwyaf y Deyrnas Unedig mwy na 1% pan gyhoeddwyd y ffigyrau.

“Ychydig fisoedd yn ôl y gobaith oedd y byddai China a’r Unol Daleithiau yn gallu atgyfodi’r economi fyd-eang gan arwain at dwf ym mharth yr ewro,” meddai Jason Conibear o gwmni Cambridge Mercantile.

“Yr ofn nawr yw bod y gwledydd rheini yn mynd i gael eu sugno i lawr gan drobwll yr ewro.

“Mae’r economi fyd-eang mewn twll ac rydyn ni’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i ffyrdd o roi trefn ar bethau.”