Mae ymosodwr Lerpwl, Craig Bellamy, wedi arwyddo cytundeb â gwneuthurwyr cit Lerpwl a fydd yn golygu bod ei ffi yn mynd at gefnogi ei waith elusennol yn Affrica.

Mae’r cwmni Warrior o America wedi arwyddo cytundeb o £25 miliwn y tymor am chwe blynedd gyda Lerpwl.

Mae’r crysau yn mynd ar werth heddiw, a Craig Bellamy yw llysgennad pêl-droed cyntaf y cwmni.

Bydd ei ffi nawdd yn mynd yn uniongyrchol i elusen a sefydlodd Craig Bellamy yn Sierra Leone, a bydd Warrior yn gweithio’n agos gyda’r chwaraewr er mwyn codi ymwybyddiaeth fyd-eang am ei elusen.

Fe fydd Bellamy hefyd yn cydweithio gyda ‘Warrior’ er mwyn datblygu esgidiau pêl-droed a fydd yn cael eu rhyddhau ym mis Rhagfyr.

‘‘I mi y rhan bwysicaf o’r cytundeb hwn yw’r arian a’r adnoddau ychwanegol a ddarparwyd gan Warrior a fydd yn mynd yn uniongyrchol i’r plant a chymunedau lleol sy’n ymwneud â fy elusen yn Sierra Leone,’’ meddai Bellamy.

Sefydlodd Bellamy yr elusen bedair blynedd yn ôl, yn y gobaith y bydd plant Sierra Leone yn gallu cyrraedd eu potensial llawn trwy gymysgedd o chwaraeon ac addysg.

‘‘Mae ei waith yn Sierra Leone yn rhyfeddol, ac rydym ni’n hynod o falch o gael helpu’r bobl ifanc yma,’’ meddai Warrior.