Silvio Berlusconi, Prif Weinidog yr Eidal - taro'n ôl yn erbyn ei erlynwyr
Mae Prif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, wedi cyhuddo ei erlynwyr o danseilio enw da’r wlad, mewn cynhadledd newyddion yn Rhufain heddiw.  

Mae’r erlynwyr yn ceisio dod â phrif weinidog yr Eidal o flaen ei well ar gyhuddiad o dalu am gyfathrach rywiol gyda merch 17 oed, ac yna cymryd camau i geisio cuddio’r berthynas.  

Cyflwynwyd dogfen 782 tudalen gan yr erlynwyr i lys ym Milan yr wythnos diwethaf, dogfen sydd, ym marn yr erlynwyr, yn cynnwys digon o dystiolaeth i warantu achos llys cyflym yn erbyn y prif weinidog.  

Beirniadu’n gyhoeddus  

Mae’r stori wedi bod yn destun penawdau yn yr Eidal ers wythnosau bellach, ac wedi dechrau llif o straeon yn ymwneud â phartïon gwyllt yn amrywiol gartrefi’r miliwnydd o brif weinidog, sydd wedi codi gwrychyn llawer o’r cyhoedd a’r Eglwys Gatholig.  

Ond wrth ymateb i’r bygythiad cyfreithiol diweddaraf mewn cynhadledd newyddion yn Rhufain heddiw, mynnodd Silvio Berlusconi fod yr erlynwyr yn “tanseilio urddas y wlad” yn eu hymgyrch yn ei erbyn gyda’u “honiadau di-sail”.  

“Mae’n drueni, a dweud y gwir. Mae’n drueni ac mae’n afiach,” meddai, gan fynnu bod yr erlynwyr wedi tanseilio enw da’r Eidal yn ogystal â’i enw da ef. Mynnodd mai yno i wasnaethu ei wlad yn unig yr oedd.