Mae disgwyl i ganlyniadau refferendwm Iwerddon ar y cytundeb ariannol Ewropeaidd gael eu cyhoeddi y bore ‘ma, ar ôl i lai na hanner yr etholwyr bleidleisio.

Mae’r ymgyrch Ie wedi rhagweld buddugoliaeth ond yn gofidio fod y tyrnowt isel yn mynd i arwain at ganlyniad agos. Mae polau piniwn wedi bod yn awgrymu rhaniad 60/40 o blaid y cytundeb, ac yn groes i’w arfer ni chynhaliodd y darlledwr RTE bol piniwn wrth i bleidleiswyr adael y gorsafoedd pleidleisio.

Iwerddon yw’r unig wlad yn Ewrop sy’n cynnal refferendwm ar y cytundeb gan ei fod yn amod o fewn cyfansoddiad Iwerddon i adael i’r cyhoedd bleidleisio ar benderfyniadau mawr Ewrop.

Bydd y cytundeb ariannol yn dod i rym beth bynnag fydd y canlyniad heddiw yn Iwerddon, ond mae Brwsel yn gobeithio am bleidlais o hyder yn yr Undeb Ewropeaidd.