Mae barnwyr yn yr Hâg wedi dedfrydu cyn-arlywydd Liberia, Charles Taylor, i 50 mlynedd yn y carchar am gynorthwyo ac annog troseddau rhyfel.

Roedd wedi cefnogi gwrthryfelwyr yn Sierra Leone oedd wedi llofruddio a llurgunio miloedd yn ystod rhyfel cartref y wlad.

Cafwyd Charles Taylor, sy’n 64 oed, yn euog fis diwethaf o’r 11 cyhuddiad yn ei erbyn. Daeth y rhyfel cartref i ben ar ôl degawd, yn 2002.

Yr arlywydd yw’r cyn-arweinwr gwlad cyntaf i lys troseddau rhyfel rhyngwladol ei gael yn euog ers yr Ail Ryfel Byd.

Roedd yr erlynyddion wedi gofyn i’r barnwyr yn y llys yn yr Iseldiroedd am ddedfryd 80 mlynedd.

Yn y cyfamser roedd yr amddiffyn wedi gofyn am ddedfryd fyddai yn cynnig gobaith iddo gael ei ryddhau cyn marw.

Bydd Charles Taylor yn cael ei garcharu mewn carchar ym Mhrydain.