Julian Assange
Fe fydd sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange, yn cael ei anfon i Sweden ar ôl colli ei frwydr yn y Llys Goruchaf i gael aros ym Mhrydain.

Mae wedi ei gyhuddo o chwe throsedd rhywiol yn Sweden. Mae Assange, sy’n 40 oed, wedi ei gyhuddo o dreisio un ddynes, ac ymyrryd yn rhywiol â dynes arall yn Stockholm ym mis Awst 2010.

Roedd cyfreithwyr Assange wedi gofyn i Lys Goruchaf y Deyrnas Unedig atal y gorchymyn i’w anfon i Sweden, gan ddadlau bod y warant i’w arestio yn “annilys ac anorfodadwy”.

Ond cyhoeddodd y barnwyr heddiw eu bod nhw wedi gwrthod y ddadl. Roedd pump wedi pleidleisio yn ei erbyn a dau o’i blaid.

Mae Julian Assange yn honni bod y merched wedi cytuno i gael rhyw gydag ef a bod yna symbyliad gwleidyddol i’r honiadau yn ei erbyn.

Mae gwefan WikiLeaks Julian Assange wedi codi cywilydd ar sawl llywodraeth a chwmni rhyngwladol drwy ryddhau gwybodaeth gudd i ddwylo’r wasg a’r cyhoedd.

Nid Julian Assange yw’r unig un sydd â chysylltiadau â’r wefan sy’n wynebu achos llys.

Mae aelod o fyddin yr Unol Daleithiau sydd wedi ei gyhuddo o roi gwybodaeth gyfrinachol yn nwylo gwefan Wikileaks yn wynebu achos mewn llys milwrol yno.

Mae Bradley Manning, 24 oed, a gafodd ei fagu am gyfnod yn Hwlffordd, Sir Benfro, wedi ei gyhuddo o 22 trosedd ac fe allai dreulio gweddill ei oes dan glo.