Mae un person yn dal ar goll yn dilyn ail ddaeargryn yng ngogledd yr Eidal y mis hwn.

Cafodd 16 o bobl eu lladd yn y daeargryn ddoe, 40km i’r gogledd-orllewin o ddinas Bologna, oedd yn mesur 5.8 ar raddfa Richter.

Cafodd saith o bobol eu lladd mewn daeargryn ar 20 Mai.

Cafodd hen adeiladau a ffatrïoedd newydd eu difrodi yn y daeargryn.

Mae’n ergyd arall i un o ardaloedd mwyaf cynhyrchiol yr Eidal yn ystod cyfnod pan mae economi’r wlad yn hynod o fregus.

Mae Prif Weinidog yr Eidal Mario Monti wedi addo y bydd Llywodraeth y wlad yn gwneud popeth posib i adfer yr ardal sydd mor bwysig i economi’r wlad.