Anfonwyd troed dynol i bencadlys plaid Geidwadol Canada, cyhoeddodd yr heddlu heddiw.

Dywedodd Heddlu Ottowa mewn datganiad bod y bocs oedd yn cynnwys y troed wedi ei gludo yno gan Canada Post ddydd Mawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw gan rywun ym mhencadlys y blaid, yn dweud bod pecyn amheus wedi cyrraedd.

Roedd staenau gwaed ar y pecyn, a galwyd uned deunydd peryglus yr heddlu i fynd i’r afael ag o.

Dywedodd yr heddlu bod crwner wedi dod i’r casgliad mai troed dynol wedi ei dorri o gorff oedd yn y bocs.

Mae’r heddlu yn Montreal yn ymchwilio i weld a oes cysylltiad rhwng y troed a chorff y daethpwyd o hyd iddo mewn bin sbwriel.

Dywedodd un o aelodau seneddol y Blaid Geidwadol fod y darganfyddiad yn troi arno.

“Mae’n ofnadwy,” meddai Brad Trost. “Mae’n siŵr mai jôc afiach gan rywun yw hyn.

“Dydw i ddim yn credu fod ganddo unrhyw beth i’w wneud â gwleidyddiaeth.”