Senedd Gwlad Groeg
Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud eu bod yn cefnogi Gwlad Groeg i aros yn yr ewro ar yr amod eu bod yn glynu at y mesurau gwariant.

Ar ôl bron i chwe awr o drafodaethau ym Mrwsel neithiwr, dywedodd yr arweinwyr  eu bod wedi ymrwymo i gadw Gwlad Groeg ym mharth yr ewro ar yr amod bod y wlad yn cadw at ei hymrwymiadau.

Mae Prif Weinidog Prydain David Cameron wedi galw am newid blaenoriaethau polisïau er mwyn hybu twf ar draws Ewrop ond heb roi’r gorau i fesurau gwariant llym.